galeri


INXS: Live Baby Live at Wembley Stadium (15)

image

Ddydd Sadwrn 13eg Gorffennaf 1991 fe gyflwynodd INXS, un o fandiau uchaf eu parch ac eiconig y byd, gig eu bywydau yn Stadiwm Wembley i 74,000 o gefnogwyr ecstatig. Ar ôl degawd a hanner ar y lôn roedd y band ar anterth eu pwerau byw ac mae'r perfformiad a ffilmiwyd y diwrnod hwnnw yn dangos eu bod nid yn unig yn fand stadiwm o'r radd flaenaf ond yr unig fand erioed a gafodd y gyts i gerdded ar y llwyfan yn Stadiwm Wembley o flaen 74,000 o bobl a jamio eu cyflwyniad eu hunain!

Chwaraeodd y band dros 2000 o sioeau cyn i’r canwr Michael Hutchence farw yn gynamserol 20 mlynedd yn ôl, ond Wembley oedd YR UN, nid yn unig roedd y band ar dân, ond roedd y gynulleidfa hefyd, roedd y band a’r dorf yn gwybod mai perfformiad oes fyddai hwn. Yn fwy na hynny, nid oedd unrhyw sgriniau, dim rampiau, dim cantorion cefnogol, dim propiau a ffonau symudol - dim ond chwe dyn yn chwarae fel petai eu bywydau'n dibynnu arno.

Cyflwynwyd y ffilm wreiddiol mewn cymhareb agwedd 4: 3 ond mae bellach mewn fformat sgrin lydan sinematig 16: 9 mewn Ultra HD 4K ar gyfer yr arddangosfa Theatrig gyntaf erioed. Crëwyd y fersiwn newydd drwy ail-leoli siot–wrth-siot i gael y gorau o'r ffrâm. I gyd-fynd â’r uwchraddiad gweledol rhyfeddol, mae’r sain bellach yn cael ei chyflwyno’n llawn Dolby Atmos, wedi’i chreu gan Giles Martin, Cyfarwyddwr Cerdd Gweithredol y band, a Sam Okell yn stiwdios Abbey Road.

20:00 - Dydd Mercher, 27 Tachwedd Tocynnau