Dangosiad hamddenol o ffilm enwog Viva Las Vegas yn serennu Elvis Presley ag Ann-Margaret.
Mae’r dangosiad yn agored i unrhyw un ac er mwy croesawu cwsmeriaid sydd yn byw hefo dementia, bydd lefel y sain fymryn yn is nag arfer a bydd ychydig o oleuadau ymlaen drwy gydol y ffilm.
Stori’r gyrrwr rasio ceir Lucky Jackson sydd yn mynd i Las Vegas i weithio erm wyn gallu prynu injan newydd i’w gar. Wrth weithio fel gweinydd, mae’n cyfarfod ac yn dechrau perthynas gyda Rusty Martin.
Bydd paned o de yn dilyn y dangosiad (yn gynnwysiedig ym mhris y tocyn)
Mi fydd y ffilm yn dechrau’n brydlon ar amser. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm.
11:00 - Dydd Mercher, 11 Mehefin Tocynnau