galeri


Vikki Stone: Song Bird

image

Rydym yn falch iawn o groesawu’r digrifwr a’r cerddor arobryn Vikki Stone yn ôl i Galeri gyda sioe lawn o’i chaneuon comedi a’i stand-yp unigryw.

 

Enwebwyd ‘Song Bird’ ar gyfer y Sioe Gerdd Orau yng Ngwobrau Gŵyl Gomedi Caerlŷr 2019 tra fu’n dal mewn datblygiad. Mae Vikki i’w gweld a’I chlywed ar sioeau comedi megis The Now Show BBC Radio 4, John Bishop Show ar BBC One a Podcast Proms y BBC.

 

★★★★ - The Scotsman / Three Weeks / Sunday Herald / BroadwayBaby.com

 

Canllaw oed: 16+

20:00 - Dydd Sadwrn, 5 Hydref Tocynnau