galeri


ORIG! Gai Toms a'r Banditos

image

Cariodd Orig Williams (El Bandito) y  ddraig i bedwar ban byd, gan frwydro'r gwylltion gwylltaf,  ennill, colli, disgyn a chodi….heb os nac oni bai, mi wnaeth o fyw i’r eithaf. Dyn ffair, dyn reslo, dyn teulu, dyn mentro…

 

Mae Gai Toms wedi cyfansoddi chwip o albwm sy'n mynd a chi ar daith drimbwl-drambwl drwy fywyd Orig, o 'Balmant Aur' Ysbyty Ifan i'r rymbl yn y jyngl yng Nghalabar, Nigeria - gyda sain yr acordion, ffidil, trwmped, trombôn a'r sax yn llwyddo i roi'r ffync, yn ogystal â'r ffair yng nghanol yr holl beth. Dyma gyfle arbennig i weld perfformiad byw o’r albym a noson fydd yn ddathliad o fywyd un o’n eiconau cenedlaethol.

19:30 - Dydd Gwener, 1 Tachwedd Tocynnau