galeri


Marianne & Leonard: Words of Love [12A]

image

Mae Marianne & Leonard: Words of Love yn stori garu brydferth rhwng Leonard Cohen a'i awen o Norwy, Marianne Ihlen. Dechreuodd eu carwriaeth ar yr ynys Groegaidd hyfryd Hydra ym 1960 pan oeddent yn rhan o gymuned bohemaidd o artistiaid, awduron a cherddorion o dramor. Mae'r ffilm yn dilyn eu perthynas o'r dyddiau cynnar ar Hydra, cyfnod o fyw yn syml, ‘cariad rhydd’ a phriodas agored, i sut y datblygodd eu cariad pan ddaeth Leonard yn gerddor llwyddiannus.

 

Bydd y dangosiad arbennig hwn hefyd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb (tua hanner awr o hyd) gyda’r cyfarwyddwr Nick Broomfield a gwesteion arbennig.

 

Nick Broomfield | UDA | 2019 | 97m (hyd y ffilm)

Mi fydd y ffilm yn dechrau'n brydlon ar amser. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau'r ffilm.

 

 

19:30 - Dydd Mawrth, 23 Gorffennaf Tocynnau

19:30 - Dydd Mawrth, 23 Gorffennaf Tocynnau


Trêl