galeri


Blodau Papur (+ cefnogaeth)

image

Mae Clwb Ifor Bach yn falch o gyhoeddi taith albwm newydd Blodau Papur mewn amryw o leoliadau yng Nghymru – gan gynnwys yma yn Galeri, Caernarfon.

 

Mi fydd Alys Williams a’i band yn troedio llwyfannau Cymru i befformio caneuon oddi ar eu halbwm cyntaf hir ddisgwyliedig ar ôl llwyddiant eu senglau cyntaf ‘Llygad Ebrill a ’Tyrd Ata I’. Dyma gyfle i brofi llais eneidiol Alys Williams a’i band talentog - Osian Williams, Dafydd Huws, Aled Huws a Branwen Williams ar rai o’n llwyfannau mwyaf adnabyddus.

 

Mae’r band yn plethu dylanwadau blues, funk a harmonïau godidog i'w perfformiad byw i greu perfformiad a fydd yn aros yn y cof am amser hir.

 

Tocynnau ar werth o 10:00, dydd Mercher – 10.06.19

 

Cyngerdd eistedd yn y theatr – addas i bob oed (gweithredir cynllun seddi cyntaf i’r felin)

19:30 - Dydd Sadwrn, 19 Hydref Tocynnau