galeri


Jon Boden

image

Mae Jon Boden yn fwyaf adnabyddus fel prif gantwr y band gwerin blaengar Bellowhead. Ers i’r band ddirwyn i ben yn 2016, mae Jon wedi bod yn perfformio fel artist unigol – a bydd yn perfformio yma’n Galeri fel rhan o’i daith ar draws Prydain.

 

Bydd Jon yn cyflwyno noson arbennig o’i gyfansoddiad ei hun o’i albymau unigol –Painted Lady, Songs From The FloodplainacAfterglow– yn ygostal a chaneuon gan ei gyn-fandiau – Bellowhead, Spiers & Boden a’i brosiect A Folk Song A Day. Mae ei sioeau wedi derbyn canmoliaeth a chlod mawr – ac edrychwn ymlaen i’w groesawu yma am un noson yn unig.

 

Yn agor y noson fydd y canwr/cyfansoddwr lleol, enillydd Cân i Gymru 2018 – Elidyr Glyn.

19:30 - Dydd Iau, 26 Medi Tocynnau