galeri


Pink Wall (Q+A: Tom Cullen & Jamie Adams)

image

Rhag-ddangosiad o ffilm Pink Wall gyda sesiwn holi ac ateb yng nghwmni Tom Cullen (cyfarwyddwr/cyd-gynhyrchydd y ffilm) a Jamie Adams (cyd-gynhyrchydd y ffilm).

 

Mae Pink Wall yn ffilm rhamant modern, yn dilyn y berthynas chwe blynedd rhwng Jenna (Tatiana Maslany) a Leon (Jay Duplass). Mae'r ffilm yn archwilio sut mae cyfeillgarwch a drwgdeimlad yn tyfu wrth i bwysau bywyd fel oedolion herio’u taith gyda’u gilydd.

Dyma ffilm cyntaf Tom Cullen fel cyfarwyddwr. Wedi cyfnod oflaen y camera fel actor ar raglenni teledu megis Black Mirror, Gun Powder a Downton Abbey yn ogystal a ffilmiau amrywiol – dyma gychwyn gwych i’w yrfa fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr. Mae cyd-gynhyrchydd y ffilm, Jamie Adams yn wneuthurwr a chynhyrchydd ffilmiau sydd wedi gweithio ar ffilmiau megis Black Mountain Poets. Mae Tom a Jamie wedi bod yn cyd-weithio ers blynyddoedd, maent wedi creu cymeriadau comedi, cynhyrchu ffilmiau byr ac wedi cyd-weithio ar y ffilm boblogaidd o 2015, Black Mountain Poets. Tra’n gweithio fel cyfarwyddwr ar y ffilm, sylweddolodd Jamie bod gan Tom y weledigaeth a’r sgiliau i gyfarwyddo ffilm ei hun un diwrnod.

Trefnir mewn partneriaeth â BAFTA Cymru.

 

Mi fydd y ffilm yn dechrau’n brydlon ar amser. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. 

Bydd pris tocynnau yn codi £1.50 yr un ar ddiwrnod y dangosiad. Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o 50c y tocyn.

20:00 - Dydd Iau, 20 Mehefin Tocynnau


Trêl