galeri


Pokémon Detective Pikachu (PG): gydag isdeitlau / subtitled

image

Gydag is-deitlau

 

Mae Tim Goodman y cyn-hyfforddwr Pokémon yn chwilio am ei dad - y ditectif blaengar Harry Goodman, ar ôl iddo ddiflannu mewn damwain car.

 

Mae ei bartner Pokémon, Detective Pikachu, hefyd yn chwilio am Harry. Am ryw reswm, Tim yw’r unig un yn y ddinas sy’n gallu deall Detective Pikachu, ac er yn amharod i wneud, mae’r ddau yn dod at ei gilydd fel tîm. Wrth ddarganfod cliwiau ar hyd strydoedd Ryme City, mae’r deuawd deinamig yma yn dod o hyd i gynllun maleisus sy'n fygythiad enbyd i fydysawd y Pokémon.

 

Rob Letterman | 2019 | Siapan, UDA | 104m

 

Mi fydd y ffilm yn dechrau’n brydlon ar amser. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. 

Bydd pris tocynnau yn codi £1.50 yr un ar ddiwrnod y dangosiad. Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o 50c y tocyn.

17:15 - Dydd Llun, 20 Mai Tocynnau


Trêl