galeri


NT Live: The Lehman Trilogy (12A)

image

gan Stefano Massini, addasiad gan Ben Power

 

Ar fore oer ym mis Medi 1844, mae dyn ifanc o Bavaria yn sefyll ar harbwr Efrog Newydd. Wrth freuddwydio am fywyd yn y byd newydd, mae ei ddau frawd yn ymuno ag o i ddechrau cwmni oedd i fod yn hynod ddylanwadol yn America.

 

163 mlynedd yn ddiweddarch, mae’r cwmni a ddechreuwyd gan y tri – Lehman Brothers – un o fanciau enwocaf America yn mynd i’r wal ac yn achosi argyfwng ariannol mwyaf ein hanes.

 

Dyma ddrama lwyfan arobryn sydd yn crynhoi’r stori. Darllediad byw trwy loeren o’r West End fel rhan o ddathliadau penblwydd 10 oed National Theatre Live.

19:00 - Dydd Iau, 25 Gorffennaf Tocynnau