galeri


Antur 35: Gruff Rhys

image

POB TOCYN WEDI'I WERTHU - RHESTR AROS AR AGOR!

 

Ymunwch ag Antur Waunfawr ar gyfer eu dathliadau 35 mlynedd, gyda gig arbennig iawn.

 

Noson o gerddoriaeth Gymraeg fydd yn cychwyn gyda pherfformiad gan unigolion Antur Waunfawr dan gyfeiliant Annette Bryn Parri. Bydd Gruff Rhys (yn perfformio'n acwstig) ac Osian Gwynedd yn cymryd i’r llwyfan am berfformiad anghygoel!

 

Yn adnabyddus am ei waith unigol ac am ei lwyddiant gyda’r Super Furry Animals, mae Gruff yn cael ei adnabod fel un o dalentau mwyaf unigryw a chreadigol yng Nghymru a’r DU. Nid yw Gruff yn swil o leisio ei farn ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol, ac mae wastad wedi bod yn gefnogol o waith Antur Waunfawr.

 

*Noder bydd cyfyngiad o 8 tocyn ar gyfer pob cwsmer i’r digwyddiad yma

19:30 - Dydd Sadwrn, 22 Mehefin Tocynnau