galeri


TONIC: Te a Dawns

image

Mae Galeri, Dawns i Bawb a Chanolfan Gerdd William Mathias yn trefnu Tonic arbennig iawn ar y cyd i nodi dechrau Gŵyl Arall Caernarfon.

 

Dewch i fwynhau te a dawns yn y theatr yng nghwmni Clwb Dawnsio Dilyniannol Caernarfon a bydd croeso mawr i chi i ymuno ar y llawr dawns neu i eistedd wrth y bwrdd i fwynhau’r dawnsio a gwrando ar y caneuon cyfarwydd yn cael eu perfformio yn fyw gan y cerddorion.

14:00 - Dydd Iau, 11 Gorffennaf Tocynnau