galeri


TONIC: Sioned Terry

image

Yn seliedig ar eu halbwm newyd, 'Nefoedd' mae'r fezzo-soprano Sioned Terry a'r piannydd Brian Ellsbury yn cyflwyno rhaglen drawiadol o ganeuon Celf Cymreig. O symylrwydd hyfryd My Little Welsh Home W. S. Gwynn Williams at harmonïau coeth a hudolus Meirion Williams yn Pan Ddaw'r Nos, mae'r datganiad hefyd yn cynnwys un o ganeuon mwyaf swynol a deniadol Ivor Novello, The Land of Might Have Been, a ddaeath i enwogrwydd yn sgîl ei chlywed yn y ffilm Gosford Park. Ar y cyd a sawl cân llai adnabyddus, rhai sydd wedi eu recordio am y tro cyntaf erioed ar y gryno ddisg, fe geir aria allan o'r opera Gymreig gyntaf, Blodwen, a gyfansoddwyd gan Joseph Parry ym 1878. 

 

Bydd paned i ddilyn

14:30 - Dydd Iau, 9 Mai Tocynnau