galeri


TONIC: Cerdd Syr Hugh

image

‘Ambell i gân, a geidw fy mron’ medda’r hen alaw werin!

Dewch i fwynhau doniau a thalentau disgyblion gweithgar Ysgol Syr Hugh a hynny mewn cyngerdd hwyliog a gyflwynir gan yr Adran Gerdd a helpars eraill y Gwasanaeth Cerdd Gwynedd a Môn. Edrychwn ymlaen i gyflwyno perfformiadau gan unawdwyr, bandiau a chorau’r ysgol i gynulleidfa Tonic. Bydd cyfle i ddathlu gymaint mwy nag ambell i gân gyda’r criw yma o gerddorion ifanc. 

 

Bydd paned i ddilyn

14:30 - Dydd Iau, 2 Mai Tocynnau