galeri


Safle Celf

Dyma’r arddangosfeydd sydd gennym yma’n Galeri ar hyn o bryd:


Mia Roberts

02/03/24 - 20/04/24

Fe Wnes i Gaer Sment yn yr Iard Gefn

Mae arfer Mia yn ymwneud â sut mae profiad o hunaniaeth Draws mewn ardaloedd gwledig yn effeithio ar arfer hunangofiannol.
Mae themâu’n ymwneud â rhywioldeb, mynegiant rhywedd, cam-drin, caethiwed, iselder, llawenydd, teulu, hunaniaethau cymdeithasol lleol (unigol, personol a chyfunol), hunanladdiad a cholled.
Mae'n ymchwilio i natur groestoriadol o sut gall hunaniaeth yr hunan, a hunaniaeth y grŵp effeithio ar brofiad personol

Oriel Caffi Loz Anne

Oriel Caffi: Loz Anne

Ionawr – Ebrill

Arddangosfa o baentiadau a darluniau cyfrwng cymysg blodeuog a haniaethol gan yr artist Loz Anne.

Safle creu gofod anadlu gan Alec Shepley

Ar Y Ffram / Y Wal / Derbynfa

Hooked: Ella Louise Jones

Ionawr/January – Ebrill/April

Mae Ella Jones, artist o Gymru, yn arbenigo mewn creu gweithiau celf ryngweithiol sy’n archwilio cymhlethdodau canfyddiad cyffyrddol, gan wahaniaethu rhwng gweadau a siapiau. Mae ei gweithgareddau artistig yn canolbwyntio ar feithrin sgyrsiau ystyrlon, dysgu sgiliau newydd, a saernïo celf ryngweithiol, gynhwysol ar gyfer prosiectau ac arddangosfeydd a gomisiynir. Themâu chwarae, chwilfrydedd, cynaladwyedd, a chysylltiad dwys â diwylliant Cymru yw craidd ei mynegiant artistig.


llwybrau celf uwch

Archif Safle Celf

Arddangosfeydd sydd wedi bod yn Galeri

Diddordeb mewn arddangos?

Cysylltwch â’n cydlynydd celf a chrefft am sgwrs ac i drafod y broses o ymgeisio am arddangosfa:
ffion.evans@galericaernarfon
01286 685 208

I'r Byw