galeri


As a Tiger in the Jungle

image

Perfformiad ysbrydoledig, argyhoeddiadol, amrwd sy’n cynhesu’r galon, am fywyd a syrcas...

 

Tri perfformiwr o Asia sy'n gofyn cwestiynau am fywyd, cariad, tlodi a thrachwant. Maent yn defnyddio sain geiriau, symudiadau, syrcas a seremoni i adrodd sut y bu iddynt lwyddo, yn nannedd anfanteision, i oroesi eu plentyndod a chreu eu tynged eu hunain.

 

Mae As a Tiger in the Jungle yn cynnig profiad unigryw o syrcas theatraidd.

 

Canllaw oed: 8+

14:00 - Dydd Sadwrn, 15 Mehefin Tocynnau

19:30 - Dydd Sadwrn, 15 Mehefin Tocynnau


Trêl