galeri


Dawns Pen-blwydd Bandabacana

image

Ymunwch â Banda Bacana wrth i’r band 9 darn ddathlu 15 mlynedd o berfformio mewn noson arbennig yn Galeri...

Mae’r band bellach yn adnabyddus am wneud i bobl godi o'u seddi ac i ddawnsio. Mae gan eu cerddoriaeth amrywiaeth eang o ddylanwadau gan gynnwys Lladin, Jazz, Curiad Affro, Ffync a Charibïaidd, ac mae curiad nodweddiadol eu caneuon yn gyrru harmonïau hyfryd gan leisiau a sacsoffon, fflachiau tarawol a phatrymau gitâr a bas sy'n plethu. Mae eu halbwm newydd diweddar ‘Stop the Planet’ yn cynnwys 14 trac o gerddoriaeth wreiddiol ac yn dangos yn glir pam maen nhw'n un o gyfuniadau dawns mwyaf poblogaidd yr ardal. Yn cefnogi heno mae’r triawd acwstig Pon' Bro - sy'n chwarae cerddoriaeth ddwystep a walts draddodiadol Cajwn yn ogystal â blŵs Cajwn a hen alawon Creolaidd.

 

Gweinir bwydlen arbennig (i’w chyhoeddi) yn y Café Bar fel rhan o’r noson/dathlu. I archebu bwrdd: 01286 685 200.

 

Noder: gig sefyll

19:30 - Dydd Gwener, 10 Mai Tocynnau