galeri


Gwilym Bowen Rhys - Arenig

image

Dyma lansiad trydydd albym unigol un o gerddorion gwerin amlycaf Cymru.

 

Yn gyfuniad o’r hen a’r newydd, y traddodiadol a’r cyfoes, gyda geiriau yn ymestyn o’r 15fed ganrif hyd heddiw. Mae’r albym Arenig yn daith cerddorol gyda dylanwadau yn amrywio o’r dadeni a’r baróc i Americana, ond â’i wreiddiau'n ddyfn ym mhridd Cymru.

 

Yn ymuno â Gwilym bydd Marit Fält - chwaraewraig mandola o Norwy, y delynores o’r Alban – Gwen Màiri, a’r ffidlwr amryddawn o Fethesda – Patrick Rimes.

19:30 - Dydd Mercher, 1 Mai Tocynnau