galeri


Being Frank: The Chris Sievey Story (15)

image

Rhagddangosiad a sesiwn holi ac ateb gyda’r cyfarwyddwr Steve Sullivan (yn cadeirio'r sgwrs fydd Adam Walton)

 

Ffilm ddogfen swyddogol am y comediwr arloesol o Fanceinion, Frank Sidebottom, a bywyd a chelfyddyd ei greadur cudd, Chris Sievey. Roedd Frank Sidebottom, y dyn â phen papier-mâché, yn brif ddidanwr ar y sîn comedi a cherddoriaeth ym Manceinion am dros 25 mlynedd, ond dim ond rhai oedd yn adnabod y dyn y tu mewn i'r masg.

 

Mae'r cyfarwyddwr Steve Sullivan yn gwau darnau o bersonoliaeth Sievey ynghyd trwy ddefnydd o archif helaeth o lyfrau nodiadau personol, ffilmiau, celf a cherddoriaeth, ynghyd â chyfweliadau gan ffrinidau sy’n cynnwys Johnny Vegas, Jon Ronson, John Cooper Clarke, Ross Noble, a mwy.

 

Mae'r hyn y mae'n ei ddatgelu yn bortread agos o arlunydd sensitif. Cafodd y ffilm ei gynhyrchu, ei gyfarwyddo a'i olygu gan y cynhyrchydd a chyfarwyddwr Steve Sullivan. Fe wnaeth Steve gydweithio â Frank Sidebottom a Chris Sievey ar raglen ddogfen 2006 Magical Timperley Tour, taith bws agored o amgylch mannau hardd a mwynderau dinesig Timperley.

 

Mae ffilmiau blaenorol Steve wedi ennill gwobrau yn rhyngwladol. Mae'n fwyaf adnabyddus am A Heap Of Trouble, ei ffilm fer cerddorol am ddynion noeth, a enillodd wobr fawr y rheithgor yn y Gŵyl Comedi Montreal a Gwobr BAFTA Cymru ar gyfer y Ffilm Fer Orau, a chafodd ei weld mewn dros 100 o wyliau ffilm ledled y byd. 

 

Mae'r ffilm yn y sinemau Prydeinig yn ystod Gwanwyn 2019. Dilynir y dangosiad gan sesiwn holi gyda Steve. Trefnir y dangosiad gan BAFTA Cymru.

 

Mi fydd y ffilm yn dechrau’n brydlon ar amser. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. 

Bydd pris tocynnau yn codi £1.50 yr un ar ddiwrnod y dangosiad. Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o 50c y tocyn.

19:15 - Dydd Mawrth, 26 Chwefror Tocynnau


Trêl