galeri


NT Live: All About Eve (12A)

image

Mae Gillian Anderson (X-Files, NT Live:A Streetcar Named Desire) a Lily James (Mamma Mia! Here We Go Again) yn perfformio’r prif rannau ynAll About Evesydd yn cael ri ddarlledu’n fyw i sinemâu o'r West End, Llundain.

 

Dyma hanes yr actores chwedlonol Margo Channing, prif seren y byd theatrig. Ond erbyn hyn mae Eve, merch ifanc, hardd sy’n eilun addoli Margo yn ymddangos yn mywyd y seren. Stori sy’n codi’r llen ar y byd cefn llwyfan sy’n llawn cenfigen ac uchelgais rhemp.

 

Cynhyrchiad newydd gan Ivo van Hove – sydd wedi addasu’r ddrama o sgript ffilm enwog gan Joseph L Mankiewicz a drama wreiddiol Mary Orr "The Wisdom of Eve". Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys cerddoriaeth gan PJ Harvey.

19:00 - Dydd Iau, 11 Ebrill Tocynnau