galeri


NT Live: All My Sons (12A)

image

Yn fyw o’r Old Vic, Llundain – yr enillydd Oscar ® Sally Field (Steel Magnolias, Brothers & Sisters) a Bill Pullman (The Sinner, Independence Day) sydd yn serennu yn un o glasuron mwyaf y llwyfan yn Ameica, drama Arthur Miller – All My Sons.

 

America, 1947.  Mae Joe a Kate Keller yn byw bywyd swbwrbaidd cyfforddus.

 

Ond mae mab Joe a Kate Keller, Larry, wedi mynd ar goll yn y rhyfel ac mae’r cwestiynau am ei ddiflaniad yn poenydio Kate yn gyson.

 

Pan ddaw Ann Deever, ei gyn ddyweddi, i’w gweld - mae cysgodion y gorffennol a’i gyfrinach dywyll yn bygwth dinistrio eu hapusrwydd yn y dyfodol.

 

Jeremy Herrin (NT Live: This House, People, Places & Things) sydd yn cyfarwyddo gyda aelodau cast hefyd yn cynnwys Jenna Coleman (Victoria) a Colin Morgan (Merlin).

 

Mae All My Sons yn gyd-gynhyrchiad rhwn Old Vic a Headlong.

19:00 - Dydd Mawrth, 14 Mai Tocynnau