galeri


Free Solo (12A)

image

Dangosiad ychwanegol oherwydd y galw...

 

Daw FREE SOLO gan y gwneuthurwr ffilm ddogfen E. Chai Vasarhelyi, a’r ffotograffydd a'r mynyddwr byd-enwog Jimmy Chin, cyfarwyddwyr MERU. Mae’n bortread ysgubol, agos atoch a digyfaddawd o'r dringwr rhydd di-raff, Alex Honnold, wrth iddo baratoi i gyflawni ei freuddwyd gydol oes: dringo wyneb craig enwocaf y byd ... yr El Capitan, ym Mharc Cenedlaethol Yosemite, sy’n 3,200 troedfedd... heb rhaff. Wedi'i ddathlu fel un o'r gampau athletaidd o unrhyw fath, mae dringfa Honnold yn gosod y safon uchaf: perffeithrwydd neu farwolaeth. Mae llwyddo yn yr her hon yn gosod ei stori yn hanesion cyflawniad dynol.

19:00 - Dydd Gwener, 1 Chwefror Tocynnau


Trêl