galeri


Noson yng nghwmni: Heather Jones

image

Lisa Gwilym, cyflwynydd poblogaidd a gwybodus BBC Radio Cymru fydd yn holi’r gantores werin Heather Jones ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.

 

Mae Heather wedi bod yn canu’n broffesiynol yn Gymraeg ac yn Saesneg ers cyhoeddi ei EP gyntaf ym 1968 ac yn cael ei chydnabod fel artist arbennig iawn. Rhwng perfformio ei chaneuon bydd yn siarad yn ddi-flewyn-ar dafod am ei gyrfa, ei bywyd, a’i phrofiadau yn y byd adloniant.

20:00 - Dydd Gwener, 8 Mawrth Tocynnau