galeri


Gadael Tir

image

Hanes hawliautira gwrthdystio yng Nghymru.

Mae’r sioe yn dilyn hynt a helynt y werin a’u hymdrechion parhaol i gael bywyd gwell. Ceir yr hanes ar ffurf hen faledi, straeon dirdynnol o anobaith a dyfalbarhad, ffermwyr mewn gwisgoedd merched yn ymosod â bwyelli, pregethwyr radical, gweithwyrtirac undebau; mil o flynyddoedd o hanes wedi ei wasgu i mewn i un perfformiad. Ynghyd â thynnu ar gelfyddydau gwerin Cymru, mae’r sioe’n cyffwrdd ar wleidyddiaeth, hawliau dynol, rhyddid meddwl a mynegiant, yr hawl i wrthdystio a hanes democratiaeth ym Mhrydain. Gydag Owen Shiers a Gwilym Morus-Baird
gadaeltir.cymru

19:30 - Dydd Mercher, 12 Rhagfyr Tocynnau