galeri


Recordiau'r Byd / World Records

image

Dewch i fod yn rhan o’r gynulleidfa sy’n tystio i ymdrechion nifer o’r artistiaid rhyngwladol i osod recordiau byd newydd ym maes creu swigod - bydd tîm Guinness yma i gofnodi’r recordiau.

 

Yn ystod y bore bydd rhai yn cael eu cynnal yn theatr Galeri. Bydd rhagor o ymdrechion yn digwydd yng nghastell Caernarfon yn ystod y pnawn*, gan gynnwys Dr Zigs yn ceisio torri’r record am y mwyaf o bobl yn creu swigod enfawr ar yr un pryd – dewch i greu hanes!

 

*yn ddibynol ar amodau tywydd addas. Bydd angen archebu tocyn ychwanegol am £2 y pen i fod yn rhan o record y byd!

 

Dyma ddigwyddiad sydd yn rhan oŴyl Swigod y Byd. Trefnir gan Dr Zigs a Galeri.

09:30 - Dydd Sul, 23 Medi Tocynnau