galeri


TONIC: Mary Lloyd Davies

image

Cyngerdd TONIC yng nghwmni cerddorion Canolfan Gerdd William Mathias a Mary Lloyd-Davies.

 

Mae’r soprano o Lanuwchllyn, Mary Lloyd-Davies yn diwtor yn y Ganolfan ers ei sefydlu yn 1999. Yn ystod ei gyrfa ddisglair, mae hi wedi perfformio gyda sawl cwmni opera yn cynnwys Glyndebourne, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a Chwmni Opera San Francisco yn ogystal â pherfformio fel unawdydd mewn oratorios a chyngherddau ledled Prydain a thramor. Bydd Mary yn rhannu’r llwyfan gyda rhai o fyfyrwyr disglair y Ganolfan a Chôr Hamdden Mathias.

 

Bydd paned i ddilyn.

14:30 - Dydd Iau, 25 Hydref Tocynnau