galeri


Mags

image

Mae Mags yn dilyn stori un ddynes anhygoel. Ymunwch â hi wrth iddi archwilio cysylltiad dynol a rôl gofal yn ein cymdeithas heddiw. Wrth i'r teulu niwclear a strwythurau cymunedol traddodiadol chwalu, pa mor dda ydyn ni am ofalu am ein gilydd?

 

Cynhyrchiad gwreiddiol newydd wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â TransForm Cymru, DadsCan a grŵp perfformio dawns Galeri - CAIN.

 

Mae'r cynhyrchiad dwyieithog hwn yn ein tywys ar daith ddyrys bywyd cyfoes, gan ddefnyddio cerddoriaeth byw, symud a thestun.    

 

Bydd sgwrs yn dilyn perfformiad Hydref 3ydd.

 

Dramatwrg: Elgan Rhys

Cyfarwyddwr: Gethin Evans

Perfformiwyd gan: Anna Ap Robert, Seren Vickers & Matteo Marfoglia

Cerddoriaeth gan Casi & Eddu Balihache

Cynllunydd: Cadi Lane

Cynllunydd goleuo: Ceri James

 

19:30 - Dydd Mercher, 3 Hydref Tocynnau

19:30 - Dydd Iau, 4 Hydref Tocynnau