galeri


P'nawn yn y Pictiwrs

image

I ddathlu agor ein sinemâu newydd dyma gyfle i fwynhau cyngerdd arbennig gyda dau bianydd penigamp yn cyflwyno detholiad o ganeuon a themâu o fyd y ffilmiau diweddaraf yn y ogystal â'r clasuron.

 

Mae Annette Bryn Parri yn un o gyfeilyddion ac unawdwyr piano mwyaf adnabyddus Cymru, tra bod Tristian Evans, sy’n bianydd a cherddolegydd a astudiodd cerddoriaeth ffilm minimalaidd fel rhan o’i ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, yn prysur ennill dilynwyr brwd drwy gyfuno delweddau symudol gyda’i berffomiadau cyffrous.

14:30 - Dydd Sul, 16 Medi Tocynnau