galeri


NY Met: Carmen (Bizet)

image

Mae cynhyrchiad Richard Eyre o felodrama angerddol Bizet yn dychwelyd, a’r mezzo-soprano Clémentine Margaine yn perfformio rhan sy’n canu’r rhan a’i gwnaeth yn enwog fel y demtwraig sipsi anffodus.

Roberto Alagna sydd yn dychwelyd i berfformio cymeriad ei chariad gwyllt - y milwr Don José; Alexander Vinogradov yw Escamillo -  yr ymladdwr teirw talog sy’n dod rhyngddynt.

 

Bu farw’r cyfansoddwr Bizet ychydig fisoedd wedi perfformiad cyntaf hunllefus o’r opera – heb ynwybod iddo y byddai ei opera yn datblygu i fod yn un o operau mwyaf poblogaidd y byd erbyn hyn.

 

Arweinydd: Louis Langrée
Cast: Carmen (Clémentine Margaine), Micaëla (Aleksandra Kurzak), Don José (Roberto Alagna), Escamillo (Alexander Vinogradov)

 

Amcan hyd: 3” 21m

17:55 - Dydd Sadwrn, 2 Chwefror Tocynnau


Trêl