galeri


NY Met: La Traviata (Verdi)

image

Cyfarwyddwr Cerdd newydd y Met - Nézet-Séguin sydd yn arwain opera poblogaidd Giuseppe Verdi.

 

Mae Alfredo (y tenor Juan Diego Flórez), wedi disgyn dros ei ben a’i glustiau mewn cariad gyda'r butain llys Violetta (y soprano Diana Damrau), er mawr siom i’w dad beirniadol, Germont.

 

Heb yr un geiniog ac yn ofni y bydd hi'n marw’n fuan, a dan bwysau Germont - mae Violetta yn cytuno i adael Alfredo am ei bod yn meddwl dyma sydd orau. Ond pan mae Germont yn clywed bod Violetta ar ei gwely angau – mae’n sylweddoli ei fod wedi gwneud camgymeriad ac yn cyfaddef popeth i Alfredo. Ond ydi hi’n rhu hwyr?

 

Arweinydd: Yannick Nézet-Séguin

Cast: Violetta Valéry (Diana Damrau), Alfredo Germont (Juan Diego Flórez), Giorgio Germont (Quinn Kelsey)

 

Amcan hyd: 3” 07m

17:55 - Dydd Sadwrn, 15 Rhagfyr Tocynnau