galeri


The Gentle Good / Patrick Rimes

image

Enw llwyfan Gareth Bonello, cerddor o Gaerdydd yw The Gentle Good. Mae Gareth yn tynnu ar gerddoriaeth a thraddodiadau gwerin Cymru yn ogystal a dylanwadau o bedwar ban byd i greu cerddoriaeth werin hudol a chyfoes.

Enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2017 am ei albwm diweddaraf Ruins/Adfeilion.

 

Patrick Rimes bydd yn cefnogi The Gentle Good.Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Patrick Rimes wedi bod yn mynd a cherddoriaeth Gymreig i gynulleidfaoedd ledled y byd, fel aml-offerynydd gyda artistiaid fel Calan, Cerys Matthews a Ghazalaw. Gan ddefnyddio ei wreiddiau yn y sîn gerddoriaeth draddodiadol fel man cychwyn, mae'n dod a'i gasgliad ei hun o ganeuon ac alawon i'r llwyfan am y tro cyntaf, yng nghwmni sawl gwestai arbennig. 

 

Trefnir y gig gan Gŵyl Arall / Galeri.

19:30 - Dydd Gwener, 13 Gorffennaf Tocynnau