galeri


TONIC: Gethin Fôn a Glesni Fflur

image

Yma yn Galeri yn 2016 y daeth y cwpl i’r amlwg gyntaf fel gwesteion i’r ddeuawd canu gwlad enwog John ac Alun.

 

Ers hynny, maent i’w clywed yn gyson ar sawl rhaglen BBC Radio Cymru ac i’w gweld ar ‘Heno’ a Noson Lawen ar S4C. Blwyddyn wedyn roedd Gethin a Glesni wedi cael sawl uchafbwynt gan gynnwys cael canu yn y caffi enwog, The Bluebird draw yn Nashville, Tennessee a rhyddhau eu halbwm cyntaf, Talsarn.

 

Bydd paned i ddilyn.

14:30 - Dydd Iau, 5 Gorffennaf Tocynnau