galeri


Andre Rieu's 2018 Maastricht Concert

image

Yn un o gerddorion mwyaf poblogaidd yn y byd – mae André Rieu, neu ‘Brenin y Waltz’ fel y gelwir yn dychwelyd i sgwar Vrijthof yn Maastricht ar gyfer ei gyngherddau blynyddol mawreddog! Rydym yn hynod falch o fod yn un o’r sinemau ar draws y byd fydd yn darlledu dwy gyngerdd yn fyw ar y sgrin fawr.

 

Teitl cyngherddau 2018 yw ‘Amore, My Tribute to Love’ fydd yn dathlu cariad y feilonydd André tuag at gerddoriaeth, ei deulu a’i deulu estynedig – cerddorfa Johan Strauss sydd wedi cyd-berfformio ag o ers dros 30 mlynedd. Mae’r cyngerdd hefyd yn dilyn rhyddhau’r albwm ‘Amore’ sydd yn cynnwys caneuon serch o’r byd clasurol a’r poblogaidd.

 

Bydd y darllediadau byw yn cynnwys cyfweliadau a golwg cefn-llwyfan fydd yn cael ei gyflwyno gan Charlotte Hawkins.

19:00 - Dydd Sadwrn, 28 Gorffennaf Tocynnau

15:00 - Dydd Sul, 29 Gorffennaf Tocynnau


Trêl