galeri


Sinatra & Me

image

Am un noson yn unig – yr athrylith Richard Shelton fydd yn gwisgo siwt Sinatra tra’n perfformio caneuon unigryw a phoblogaidd Frank Sinatra – y canwr sydd yn cael ei ystyried fel un o'r goreuon erioed.  Yn cyfeilio i Richard fydd yr enwog ‘Denmark Street Big Band’ o’r West End, Llundain.

 

Mae Richard Shelton (Emmerdale, Rat Pack Confidential) wedi perfformio fel Sinatra ar rai o lwyfannau enwoca’r byd, megis y Coliseum a Ronnie Scott’s Jazz Club (Llundain), yn Carnegie Hall (Efrog Newydd) ac yn gyson yn Los Angeles ble mae’n byw.  Cafodd ei albwm ddiweddaraf,“An Englishman in Love, in LA”ei recordio yn Stiwdio B (Capital Studio) Frank Sinatra yn LA gan ddefnyddio rhai o gyn-aelodau band Sinatra.  Nid dyma’r unig gysylltiad sydd gan y canwr gyda’i arwr – bydd Richard hefyd yn gwisgo siwt y dyn ei hyn heno!

 

Cafodd The Denmark Street Big Band eu sefydlu gan y Cyfarwyddwr Cerdd ac arweinydd y band, Paul Burch.  Daw’r band ac arddull, egni a sain o oes aur y ‘big band’ yn fyw ar y llwyfan.  Mae Paul wedi dewis y cerddorion yn unigol ar sail gallu a phrofiad gyda phob un yn perfformio yn rheolaidd i fawrion y byd cerddorol a sioeau cerdd y West End.  Ers 2013, nhw yw band preswyl y Tŷ Opera Brenhinol ar Nos Galan – felly mae nhw’n uchel iawn eu parch!

20:00 - Dydd Gwener, 27 Gorffennaf Tocynnau