galeri


Gadael Lenin (12A)

image

Cyfle i weld y ffilm gafodd ei ffilmio'n gyfan gwbl ar leoliad yn St Petersburg.  Hon oedd y ffilm gyntaf o'r Gorllewin i gael ei ffilmio yn y Rwsia newydd wedi cwymp Comiwnyddiaeth.

 

Mae'r ffilm yn dilyn hynt a helynt tri athro a chriw o ddisgyblion ar daith i ddarganfod trysorau celf St Petersburg. Fodd bynnag, cyn gynted ag y maent yn cyrraedd, mae rhywbeth annisgwyl yn digwydd gan wasgaru pawb i gyfeiriadau gwahanol a chreu dwy lefel ar gyfer dehongli'r ffilm.

 

Cast yn cynnwys: Sharon Morgan, Steffan Trefor, Wyn Bowen Harris, Ifan Huw Dafydd, Richard Harrington, Geraint Francis ac Ivan Schvedov.

 

Bydd pris tocynnau yn codi £1.50 y tocyn ar ddiwrnod y dangosiad.  Tocynnau ar gael drwy'r Swyddfa Docynnau yn unig ar 01286 685222

27.02.2018 | 19:30 - Tocynnau