galeri


Ensemble Cymru: Uchafbwynt Taith Penblwydd

image

Wedi 15 mlynedd o greu cerddoriaeth, mae Ensemble Cymru yn cyflwyno ensemble mwy o faint i berfformio rhaglen drawiadol ac amrywiol ar gyfer y cyngerdd arbennig yma.

 

Bydd yr ensemble yn perfformio gweithiau gan ddau gyfansoddwr o Gymru - comisiwn newydd sbon gan Gareth Glyn, acEmerging (lightly)gan Rhian Samuel o Aberdyfi.

 

O’r ugeinfed ganrif, cawn y berl na pherfformir mohoni’n aml,Nonet, gan y cyfansoddwr mawr o Loegr, Arnold Bax, ynghyd â Dawnsfeydd Debussy i’r Delyn a Phumawd Llinynnol, a gyfansoddwyd i ‘arddangos’ y delyn. O fynd yn ôl i 1738, mae concerto HandelOp. 4, Rhif 6 i’r Delynyn tynnu ar ymron i’r cyfan o’r grymoedd offerynnol amrywiol sydd gennym y tymor cyffrous hwn.

 

Cerddoriaeth i’r ffliwt, obo, clarinét, telyn, ffidlau, sielo a bas dwbl…

 

Y Rhaglen

Claude Debussy – Dawnsfeydd i’r Delyn a Phumawd Llinynol
Arnold Bax – Nonet
Gareth Glyn –Comisiwn newydd i Ensemble Cymru, heb deitl ar hyn o bryd.
Handel – Concerto i’r Delyn Rhif 6
Rhian Samuel – Emerging (lightly) i Fiola Solo ac Ensemble Siambr

 

Archebwch cyn 01.04.18 i fanteisio ar bris tocyn cynnar - dim ond £8!

14.05.2018 | 14:00 - Tocynnau