galeri


Andy Kirkpatrick

image

Psychovertical:  A Higher Education

 

Rydym yn falch o groesawu Andy Kirkpatrick - un o brif fynyddwyr Prydain, dringwr muriau mawr ac arbenigwr ar deithiau gaeaf yn ôl i Galeri fel rhan o’i daith ddiweddaraf ar hyd a lled Prydain.

Yn arbenigwr o fri ar offer dringo, mae Andy hefyd yn awdur a gwneuthurwr ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau - sy’n meddu ar y ddawn i swyno unrhyw gynulleidfa gyda’i ddull unigryw o adrodd storïau i symbylu, a hynny gyda hiwmor.

Ymunwch â ni wrth i Andy edrych yn ôl ar ddeugain mlynedd o ddringo ac anturiaethau, o’r Alpau i Batagonia, Yosemite i’r Ynys Las, yn adrodd stori am bopeth sy’n gwneud bywyd yn rhyfeddol.

Bydd y sgwrs yn cyd-fynd â rhyddhau’r ffilm ‘Psychovertical’ gan y cyfarwyddwr arobryn Jen Randell - dangosir yn Galeri 17.03.18 @ 19:30.

 

Rhybudd: Sioe i gynnwys iaith gref!

11.02.2018 | 19:30 - Tocynnau