galeri


E.T. (U)

image

Dros yr wythnosau diwethaf, mae criw o aelodau Sbarc wedi bod yn gweithio ar brosiect Rhaglennwyr Ifanc. Bydd 3 ffilm amrywiol yn cael ei rhaglennu heddiw, dyma’r cyntaf.

 

Clasur i’r teulu cyfan o 1982 – ffilm sydd yn rhaid ei weld ar y sgrin fawr!

 

Pan mae’r estron E.T. yn cael ei adael ar ôl ar y ddaear, mae Elliot, bachgen ifanc yn ei warchod. Daw yn amlwg bod yn rhaid i Elliot helpu E.T. i gyrraedd y llong ofod  cyn swyddogion y llywodraeth ei gipio a rhedeg profion ar E.T…

 

Dewch i gefnogi rhaglennwyr sinema’r dyfodol. Diolch yn arbennig i Aled Llewelyn a Mari Huws am gydlynnu’r prosiect. Cefnogir y prosiect gan Ganolfan Ffilm Cymru (drwy nawdd y BFI).

29.10.2017 | 14:00 - Tocynnau


Trêl