galeri


Noel James

image

Set gomedi gan Noel James yn y bar i gloi ail ddiwrnod Penwythnos INC 2017.

 

R’ôl troedio’r byrddau  stand-up yn Lloegr yn y 90au dychwelodd Noel  i  Gymru. Dechreuodd  sgrifennu deunydd trwy gyfrwng  ei famiaith. Dyma’r canlyniad! Sioe ffraeth, deinaming a gwreiddiol  yw hon sy’n cynnwys jocs, miwsig, a sylwadaeth anochel ar gyflwr presennol Gwalia. Post ‘Brallanfa’ mae tirwedd cymdeithasol ein gwlad yn troi yn abswrd, ac felly yn ysbrydoli’n berffaith comedi swreal  Noel. Eirwyn Pontshan yr unfed ganrif ar ugain…

 

Canllaw oed: 14+

 

Mynediad am ddim (bydd posib rhoi cyfraniad i elusen ar y noson)

30.09.2017 | 21:15 - Tocynnau