galeri


Ensemble Cymru: Taith Penblwydd

image

Mae prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed eleni gyda cyngerdd estynedig ac arbennig iawn. Bydd yn dwyn ynghyd cerddorion byd-enwog sy'n teimlo'n angerddol am rannu cerddoriaeth siambr prin o Gymru a'r byd.

 

Bydd Ensemble Cymru yn canolbwyntio ar gerddoriaeth i’r delyn, piano, ffliwt clarinet, fiola ffidil a sielo. Perfformir rhaglen o waith gan gyfansoddwyr o Gymru gyda pherfformiad oNot the Stillnessgan John Metcalf a gwaith cyfansoddwr newydd ifanc o Gymru, Claire Roberts. Bydd hefyd yn gyfle prin i glywed perfformiad byw oChamber Music No. 1gan Martinu sydd â'r cyfuniad anghyffredin o'r delyn a'r piano.  

 

Y rhaglen:

Chamber Music no. 1– Bohuslav Martinu

Piano Quartet in A minor– Gustav Mahler

Concert a Cinq– Joseph Jongen

Not the Stillness– John Metcalf

Block– Claire Roberts

13.11.2017 | 14:00 - Tocynnau