galeri


NT Live: Follies (12A)

image

Mae sioe gerdd enwog Stephen Sondheim yn cael ei llwyfanu am y tro cyntaf yn y National Theatre a’i darlledu’n fyw i sinemâu.

 

Efrog Newydd 1971.  Mae na barti ar lwyfan y Weismann Theatre.  Yfory fe fydd yr adeilad eiconig yn cael ei ddymchwel.  Trigain mlynedd ar ôl eu pefformiad olaf, mae merched y Follies yn dod at ei gilydd am ddiferyn ne ddau, canu ambell gän a phorthi anwiredd amdanynt eu hunain.

 

Tracie Bennett, Janie Dee ac Imelda Staunton sy’n chwarae rhan y Follies godidog yn y cynhyrchiad newydd ysblennydd hwn.  Gyda chast o 37 a cherddorfa o 21, fe’i gyfarwyddir gan Dominic Cooke (The Comedy of Errors).

 

Enillydd gwobrau Academy, Tony, Grammy ac Olivier - mae gwaith blaenorol Sondheim yn cynnwysA Little Night MusicSweeney Todd a Sunday in the Park with George.

Dangosiad encôr (recordiwyd yn fyw nos Iau, 16.11.17)

19.11.2017 | 18:30 - Tocynnau