galeri


Destination Unknown [12A]

image

Mae Destination Unknown yn asio tystiolaeth agos-atoch gyda deunydd archifol i ddwyn storiâu deuddeg o oroeswyr yr Holocost i’r sgrin. Mae’r goroeswyr yn rhannu eu hatgofion, rhai am y tro cyntaf a rhai am y tro olaf, gan gyfleu eu profiadau i genhedlaeth newydd. Fe welwn y rhai wnaeth oroesi trwy guddio, rhai fu’n ymladd ar ochr y partisaniaid, a rhai a ddioddefodd mewn gwersylloedd megis Treblinka, Mauthausen ac Auschwitz-Birkenau.

 

Yn dilyn y ffilm, bydd sesiwn holi ac ateb gyda cynhyrchydd a chyd-gyfarwyddwr y ffilm - Llion Roberts o Gaernarfon.

 

Bydd prisiau tocynnau sinema yn codi £1.50 y tocyn ar ddiwrnod y dangosiad

06.09.2017 | 19:30 - Tocynnau


Trêl