galeri


NY Met: Luisa Miller (Verdi)

image

Mae James Levine a Plácido Domingo yn ychwanegu pennod arall eto at eu cywaith chwedlonol ar gyfer y Met, gyda'r em hon gan Verdi nad yw'n cael ei pherfformio'n aml, sef trasiedi ddirdynnol sy'n seiliedig ar nofel Friedrich SchillerKabale und Liebe(Intrigue and Love). Mae'r forwyn ifanc Luisa yn caru Rodolfo, heb wybod mai ef yn wir yw mab yr arglwydd lleol. Mae rhywun diegwyddor sy'n cystadlu am ei theimladau yn dweud wrth ei thad pwy yw Rodolfo mewn gwironnedd, gan droi'r hen ŵr yn ei erbyn. Mae cenfigen, amheuaeth a brad yn rhwygo'r cariadon, ond mae Luisa'n parhau'n ffyddlon i'w thad i'r diwedd.

 

Yn y perfformiad cyntaf o'r opera gan y Met ers deng mlynedd a mwy, mae Sonya Yoncheva yn canu'r brif ran gyferbyn â Piotr Beczała fel Rodolfo, gyda Domingo fel tad llym ond cariadus Luisa.

 

Amcan hyd: 3” 38m

Perfformir mewn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg

14.04.2018 | 17:30 - Tocynnau