galeri


NY Met: Cosi fan Tutte (Mozart)

image

A'u ffrind sinigaidd Don Alfonso yn eu herio, mae'r milwyr Ferrando a Guglielmo yn penderfynu profi ffyddlondeb eu darpar wragedd. Gan smalio gadael gyda'u llu, maent yn dychwelyd mewn cuddwisg a cheisio canlyn cariad y llall. A fydd y merched ifanc yn cael eu hudo gan y 'dieithriaid' golygus?

 

Yn gyd-gynhyrchiad gydag Opera Cenedlaethol Lloegr, mae'r weledigaeth ddeallus hon o'r frwydr rhwng y rhywiau wedi'i gosod mewn awyrgylch carnifal wedi'i ysbrydoli gan Coney Island yn yr 1950au.

 

Mae'r cast yn cynnwys Amanda Majeski a Serena Malfi fel y chwiorydd sy'n cael eu rhoi ar brawf, gyda seren Broadway Kelli O’Hara fel eu morwyn dalog, Ben Bliss ac Adam Plachetka fel eu darpar wŷr, a Christopher Maltman fel Don Alfonso. David Robertson sy'n arwain sgôr swynol Mozart.

 

Amcan hyd: 3” 31m

Perfformir mewn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg

31.03.2018 | 17:55 - Tocynnau