galeri


NY Met: Tosca (Puccini)

image

Stori gyffrous am serch, braw, a cham-drin grym, ac awch brwd am ryddid. Pan mae carcharor gwleidyddol yn dianc a chael noddfa mewn eglwys, mae canwr opera a phaentiwr yn cael eu tynnu i mewn i blot trofaus sy'n eu gosod ar drugaredd yr heddlu cudd a'i rwydwaith o arteithwyr ac ysbiwyr.

 

Cystal ag ysblander setiau a gwisgoedd Franco Zeffireli o'r oes Napoleonaidd, mae cynhyrchiad newydd a chyfareddol Syr David McVicar yn cynnig cefndir rhagorol ar gyfer canu arbennig.

 

Kristine Opolais sy'n serennu fel yprima donnayn y teitl, ochr yn ochr â Vittorio Grigolo fel ei chariad artistig a Bryn Terfel fel pennaeth drwg yr heddlu—un o'i rannau nodedig. Andris Nelsons sy'n arwain.

 

Amcan hyd: 3” 53m

Perfformir mewn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg

27.01.2018 | 17:55 - Tocynnau