galeri


NY Met: Die Zauberflote (Mozart)

image

Profwch ffantasi hudolus Mozart yn ei gogoniant! A fydd y Tywysog Tamino ddewr yn achub y Dywysoges Pamina o grafangau Sarasto ddrwg, ac a fydd Papageno, yr adarwr ffôl, yn dysgu digon o ddoethineb i'w helpu?

 

Mae'r aria Brenhines y Nos, gyda'i nodau uchel stratosfferig, ymysg uchafbwyntiau di-ri yn stori hon am gariad a hud a lledrith, cyfrinachau dirgel, a ffantasi hynod. Mae cynhyrchiad swynol Julie Taymor (The Lion King) yn cyfleu comedi fras a mawredd goleuedig yr opera.

 

Mae Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Emeritws y Met, James Levine, yn arwain cast o sêr ifanc addawol.  

 

Amcan hyd: 3” 9m

Perfformir mew Almaeneg gydag is-deitlau Saesneg

14.10.2017 | 17:55 - Tocynnau