galeri


NY Met: Norma (Bellini)

image

Mae campwaith Bellini yn cynnwys un o'r arias enwocaf ym myd yr opera, sef "Casta diva".  Dan gyfarwyddyd Syr David McVicar, mae'r cynhyrchiad newydd ac atgofus hwn yn gosod y symud yn ddwfn mewn coedwig Dderwyddol, lle mae byd natur ac arferion hynafol yn teyrnasu. Mae'r offeiriades Norma wedi'i rhwygo rhwng teyrngarwch i'w phobl orthrymedig a'i chariad ar filwr Rhufeinig. Y noson cyn gwrthryfel i'r Derwyddon wrthryfela, rhaid iddi ddewis rhwng dau frad dirdynnol —ond daw i ddeall ei bod hithau wedi cael ei bradychu eisoes.

 

Mae Sondra Radvanovsky fel Norma a Joyce DiDonato fel ei chydymgeisydd Adalgisa, yn arwain cast o hoelion wythbel canto, gyda Joseph Calleja fel cariad anffyddlon Norma, Pollione, a'r ffefryn Prydeinig Matthew Rose yn dychwelyd i'r Met fel tad Norma, Oroveso.

 

Amcan hyd: 3” 4m

Perfformir mewn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg

07.10.2017 | 17:55 - Tocynnau