galeri


The World's Wife

image

Ydych chi wedi clywed y dywediad, tu ôl i bob dyn llwyddiannus…?

 

O Mrs Darwin i’r Frenhines Kong, mae The World’s Wife gan Carol Ann Duffy yn gasgliad o farddoniaeth sy’n beirniadu dynion enwog mewn hanes a chwedl o safbwyntiau eu partneriaid.

 

Mae’r cyfansoddwr Tom Green wedi trawsnewid y cerddi fflamychol hyn yn opera i’r 21ain ganrif ar gyfer unawd soprano a phedwarawd llinynnau (Mavron Quartet).

 

Ymunwch â ni ar gyfer perfformiad cyntaf o lais operatig radical newydd, wrth i’r pum cerddor ar y llwyfan greu corau corfforol a byddinoedd o bedwarawdau llinynnol i ddweud stori sy’n gyffredin i ni gyd.

 

Cyflwynir gan Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Echo Forest a The Mavron Quartet.

 

Amcan hyd: 70 munud (heb egwyl)

 

Iaith y cynhyrchiad: Saesneg

02.11.2017 | 19:30 - Tocynnau


Trêl