galeri


Mugenkyo Taiko Drummers

image

Rydym yn falch o groesawu’r Mugenkyo Taiko Drummers i Galeri unwaith eto…

 

Rhythmau taranllyd ar ddrymiau taiko enfawr, coreograffi dirgel â masgiau a goleuo dyfeisgar, cydamseru cyhyrol perffaith, delweddau milwrol o’r tu hwnt i’r apocalyps a hiwmor heintus i wneud i chi chwerthin yn galonnog – hyn i gyd mewn arddangosiad cyfareddol o athletiaeth bur. Gallwch chi deimlo egni a phrofi pŵer y perfformiad unigryw hwn.

Mugenkyo yw’r grŵp drymiau taiko teithiol mwyaf llwyddiannus ar y cyfandir sydd yn dathlu 21 mlynedd ar y lôn. Mae’r criw wedi datblygu arddull angerddol ysblennydd gyda cherddoriaeth i’r enaid, gan uno’r ysbryd traddodiadol ag edrychiad a sain cyfoes i greu perfformiad llwyfan modern sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ym mhobman…

 

«««««

“Just when you think it could not get any more powerful, it doubles in intensity. This show is not one to be missed."

Edinburgh Evening News

 

taiko.co.uk

24.11.2017 | 19:30 - Tocynnau