galeri


Luke Daniels: Revolve & Rotate Tour

image

Daw’r canwr a chyfansoddwr llwyddiannus Luke Daniels â’i sioe un dyn i Galeri gan ddefnyddio peiriant gwreiddiol Polyphon o’r 19fed ganrif fel rhan o’r perfformiad.

 

Seiniau byw, seiniau fel peiriant cloc a seiniau sampl wedi eu gweu’n grefftus i greu moeswersi modern a cherddoriaeth offerynnol afaelgar.

 

Mae gwaith Luke fel aelod o Fand Cara Dillon a Cherddorfa Riverdance yn tystio fod ei grefft ymhlith y goreuon. Yn sicr mi fydd hon yn noson ragorol o ganeuon a cherddoriaeth acwstig.

 

“a future classic”Songlines

“an enchanting delight”Acoustic Magazine

22.09.2017 | 19:30 - Tocynnau